Cymorth brys i fusnesau bach yn sgil y coronafeirws – manylion
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Llywodraeth Cymru heddiw (17 Mawrth): “Fel Llywodraeth Cymru rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo busnesau i ddelio ag effaith y coronafeirws. Fy nghyngor i bob busnes yw defnyddio’r help a’r cyngor sydd ar gael."
https://llyw.cymru/cefnogaeth-y-coronafeirws-ar-gyfer-eich-busnes
“Dylai unrhyw fusnes yr effeithir arno gysylltu â llinell gymorth Busnes Cymru ar 03000 603000. Gall Busnes Cymru helpu drwy roi cyngor ymarferol – ar amrywiaeth o faterion, o staffio i gynllunio ariannol, yn ogystal â chynnig cymorth o ran y gadwyn gyflenwi."
“Mae Banc Datblygu Cymru hefyd ar gael i helpu - mae ganddo gyllid ecwiti a benthyciadau ar gael ar unwaith i fusnesau bach sydd fel arall yn ffynnu, drwy’r problemau llif arian a’r heriau eraill y gallent eu hwynebu yn ystod yr wythnosau a’r misoedd anodd nesaf."