Julie Morgan AM for Cardiff North
Choose language | Dewis iaith
gb wales
Need help? Call | Angen help? Ffoniwch 0300 200 6241 
or | neu   email Julie | E-Bostiwch Julie      
Julie Morgan MS for Cardiff North

DIWEDDARIAD O RAN DANFONIADAU BWYD

Gwybodaeth i etholwyr Julie Morgan AS, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Caerdydd:

Dros yr wythnos ddiwethaf mae nifer o etholwyr bregus wedi cysylltu â mi gan nad ydynt wedi gallu cofrestru gydag archfarchnadoedd ar gyfer danfoniadau cartref.

Gan fod y mwyafrif o etholwyr a gysylltodd yn cael trafferth cofrestru gyda Sainsbury’s, ysgrifennais at Brif Weithredwr y cwmni, i fynegi fy mhryder nad oedd cwsmeriaid bregus yng Nghymru yn gallu cofrestru gyda nhw, ac i dynnu sylw hefyd at anallu pobl i gysylltu â nhw wrth ffonio eu llinellau ffôn.

Nid wyf wedi cael ymateb swyddogol eto gan y Prif Weithredwr, ond mewn e-bost at holl Aelodau’r Senedd, dyddiedig 31 Mawrth, rwyf wedi cael sicrwydd bod Sainsbury’s yn gweithio’n agos iawn gyda Llywodraeth Cymru a’i fod yn disgwyl y bydd cronfa ddata ar gael gan Lywodraeth Cymru i bobl fregus sy’n byw yng Nghymru i gofrestru gyda nhw ar unwaith.

Sainbury-400px.jpgBydd y grŵp hwn yn cael ei flaenoriaethu fel y gallant gael mynediad at slotiau cludo cartref os nad ydynt wedi gallu cysylltu â Sainsbury’s i gofrestru hyd yma.

Bydd cwsmeriaid oedrannus, bregus ac anabl yn parhau i gael eu blaenoriaethu gan Sainsbury’s.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru o ran dosbarthu bwyd

Cyfarfu Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Cymru â chynrychiolwyr o’r sector manwerthu eto’r wythnos hon (w / d 31 Mawrth) i drafod materion, gan gynnwys y gefnogaeth y byddant yn gallu ei darparu wrth i’r pandemig barhau. Mae manwerthwyr wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, gan gynnwys blaenoriaethu cyflenwadau bwyd i bobl sy’n gwarchod rhag y feirws, yr henoed, pobl agored i niwed eraill, ynghyd â’n gweithwyr y GIG a gweithwyr gofal, yn ogystal â darparu cefnogaeth ychwanegol i fanciau bwyd.

Pwy fydd yn cael llythyr oherwydd eu bod yn ‘hynod o agored i niwed?

Cyhoeddwyd y bydd unrhyw un sydd wedi cael llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru yn gofyn iddynt gysgodi eu hunain am 12 wythnos (75,000 o bobl yng Nghymru) oherwydd eu bod yn hynod o agored i niwed, yn gallu gofyn am ddanfon blwch bwyd wythnosol am ddim gan eu hawdurdod lleol, os nad oes ganddynt gefnogaeth gan ffrindiau neu deulu.

Bydd y busnes gwasanaeth bwyd sy’n darparu’r blwch bwyd yn danfon yn uniongyrchol i’r cartref. Y cyflenwyr sy’n ymdrin â phacio, dosbarthu a danfon at y drws. Y bwriad yw cychwyn danfoniadau o ddiwedd yr wythnos hon (w/d 30 Mawrth).

Nid yw pawb sy’n cael eu hystyried yn agored i niwed yn cael llythyr am warchod rhag y feirws - mae’r grŵp hwn o 75,000 o bobl, er enghraifft, yn cael triniaeth ganser, mae ganddynt glefydau prin neu maent wedi cael trawsblaniadau organau. Mae rhagor o wybodaeth am y rhai a ddiffinnir yn feddygol fel rhai sy’n gwarchod rhag y feirws i’w gweld yma: Cyngor Llywodraeth Cymru ar warchod rhag y feirws i rai sy’n arbennig o agored i niwed

Cymorth gwirfoddol gyda siopa gan Gyngor Caerdydd

  • Mae Cyngor Caerdydd hefyd wedi lansio ei gynllun gwirfoddolwyr, sy’n cynnwys helpu pobl agored i niwed gyda’u siopa.
  • Bydd angen i chi ffonio llinell y Cyngor sef: 029 2087 1071.
  • Yna cewch eich rhoi mewn cysylltiad â gwirfoddolwyr a fydd yn gallu helpu.

Byddaf yn cadw mewn cysylltiad ag etholwyr ynghylch y mater hwn ac yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf heddiw (Ebrill 2).

Julie-signature.png