Rwy’n cefnogi’r galwadau i gael gwared ar gerflun Thomas Picton o Neuadd y Ddinas
Datganiad ar gerflun Thomas Picton, Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd:
"Rwy’n falch iawn o weld yr ymateb cyflym gan Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, yn dweud ei fod yn cefnogi galwadau i gael gwared ar y cerflun o Thomas Picton o’r Neuadd Farmor yn Neuadd y Ddinas.
"Mae’n wych y byddwn yn adnabod cyfraniad Betty Campbell, y pennaeth du cyntaf yng Nghymru, gyda cherflun y tu allan i Orsaf Caerdydd Canolog yn y blynyddoedd nesaf. Cafodd ei dewis yn ôl pleidlais gyhoeddus – a gobeithio y gallwn gael awgrymiadau gan y cyhoedd o ran pwy ddylai gymryd lle Thomas Picton yn Neuadd y Ddinas hefyd."