Argyfwng costau byw – mae cymorth ar gael
Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar bawb.
Gobeithio y bydd y trosolwg hwn o’r cymorth sydd ar gael yn fuddiol.
Gwybodaeth yn gywir ar 1 Awst 2022.
Cymorth Llywodraeth Cymru
Cynllun cymorth tanwydd
Mae Llywodraeth Cymru yn ehangu ei Chynllun Cymorth Tanwydd yr hydref a’r gaeaf eleni, sy’n golygu y bydd mwy o aelwydydd yn gymwys i elwa ar daliad o £200 i helpu i gadw eu cartrefi’n gynnes.
Bydd mwy na 400,000 o aelwydydd yn gymwys i dderbyn y taliad o £200 yn awr.
Bydd aelwydydd sy’n hawlio credyd cynhwysol, budd-daliadau blaenorol seiliedig ar brawf modd, credydau treth gwaith, credydau treth plant, credydau pensiwn, budd-daliadau anabledd, lwfans cynhalwyr, budd-daliadau cyfrannol a’r rhai sy’n derbyn gostyngiad treth gyngor yn gymwys.
Cynllun Cymorth Costau Byw
Mae’r taliad cymorth costau byw o £150 yn cael ei ddarparu i bob aelwyd mewn eiddo ym mandiau treth gyngor A i D, a phob aelwyd sy’n derbyn cymorth gan y Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, beth bynnag eu band treth gyngor.
Bydd taliadau’n cael eu gwneud yn uniongyrchol i gyfrifon banc pobl gan eu Hawdurdod Lleol.
Cronfa Cymorth Dewisol
Grant i dalu am gostau hanfodol, fel bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio brys os ydych chi’n:
- profi caledi ariannol eithriadol
- wedi colli’ch swydd
- wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf
Dolen yma - https://llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf/cronfa-cymorth-dewisol-cymhwysedd
Prydau Ysgol am Ddim
Mae brecwast ysgol am ddim ar gael i bob plentyn yng Nghymru.
Mae prydau ysgol am ddim ar gael i blant sy’n gymwys yng Nghymru ac maent yn parhau i gael ei darparu gydol gwyliau’r ysgol.
O fis Medi 2022 ymlaen, bydd y cynllun prydau ysgol am ddim i bawb yn dechrau cael ei gyflwyno’n raddol, gan ddechrau gyda dosbarthiadau derbyn. Erbyn mis Ebrill 2023, bydd blwyddyn 1 a 2 yn dechrau derbyn eu prydau ysgol am ddim, gyda gweddill y blynyddoedd ysgol gynradd yn dilyn erbyn 2024.
Dolen yma - https://llyw.cymru/y-cynllun-prydau-ysgol-am-ddim-i-bawb-yn-cychwyn-cael-ei-weithredu-ym-mis-medi
Grant Datblygu Disgyblion
Helpu teuluoedd gyda chostau’r diwrnod ysgol a gellir ei ddefnyddio ar gyfer eitemau fel gwisg ysgol a chyfarpar.
Gall dysgwyr sy’n gymwys ar hyn o bryd ar gyfer prydau ysgol am ddim wneud cais am y grant o £125 fesul dysgwr, a £200 ar gyfer y dysgwyr hynny sy’n dechrau blwyddyn 7, i gydnabod y costau uwch sy’n gysylltiedig â dechrau yn yr ysgol uwchradd.
Dolen yma - https://llyw.cymru/grant-datblygu-disgyblion-mynediad
Cymorth gyda chostau gofal plant
Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu hyd at 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar wedi’i ariannu gan y llywodraeth i rieni plant tair a phedair oed cymwys sy’n gweithio am 48 wythnos y flwyddyn.
Dolen yma - https://llyw.cymru/gwneud-cais-am-gynnig-gofal-plant-cymru
Gŵyl Haf o Hwyl a gweithgareddau o 1 Gorffennaf i 30 Medi. Am ddim i rai 0 i 25 oed
Dolen yma - https://www.childfriendlycardiff.co.uk/cy/haf_o_hwyl/
Cyfleustodau
Dŵr Cymru
Gellir rhoi cymorth i’r rhai sy’n cael anhawster talu eu biliau. Rhagor o wybodaeth ar wefan Dŵr Cymru - https://www.dwrcymru.com/cy-gb/support-with-bills
Tariff HelpU
Mae’r tariff HelpU yn helpu’r aelwydydd ar yr incwm isaf yn ein rhanbarth. Os ydych chi’n gymwys, byddwn yn rhoi uchafswm ar eich bil dŵr fel na fyddwch chi’n gorfod talu mwy na swm penodol am y flwyddyn.
Os oes gennych chi fesurydd dŵr, ni fyddwch fyth yn gorfod talu mwy na’r swm rydych chi wedi’i ddefnyddio. Os yw’ch defnydd yn llai na swm yr uchafswm HelpU, dim ond am y dŵr rydych chi wedi’i ddefnyddio y byddwch chi’n derbyn bil..
https://www.dwrcymru.com/cy-gb/support-with-bills/helpu-tariff
National Energy Action
Rhoi cymorth uniongyrchol i bobl gyda chyngor ar ynni a manteisio i’r eithaf ar incwm ac rydym yn eirioli ar faterion fel effeithlonrwydd ynni ein cartrefi. Os nad ydych chi neu rywun rydych chi’n ei ‘nabod yn gallu fforddio gwresogi eich cartref, mae NEA yn cynnig cyngor a chymorth amrywiol yn uniongyrchol i bobl mewn angen.
Ffoniwch 0800 304 7159, dydd Llun i ddydd Gwener 10:00am – hanner dydd
Dolen yma - www.nea.org.uk
Tai
Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai
Ar gael i’r sectorau cymdeithasol a phreifat
Gall ddarparu arian ychwanegol pan fydd eich awdurdod lleol yn penderfynu eich bod angen cymorth ychwanegol i dalu’ch costau tai ar ben pa bynnag gymorth budd-dal rydych chi’n ei dderbyn drwy’r Adran Gwaith a Phensiynau.
I dderbyn y Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai, mae’n rhaid i chi fod naill ai’n derbyn yr hen Fudd-dal Tai neu’r elfen cyfraniad costau tai drwy’r Credyd Cynhwysol.
I weld a ydych chi’n gymwys, cysylltwch â Chyngor Caerdydd. Dolen yma -
Hawl i Fudd-dal
Credyd Cynhwysol
Mae’r Credyd Cynhwysol yn daliad i’ch helpu gyda’ch costau byw a delir yn fisol. Efallai y byddwch chi’n gymwys i wneud cais os ydych chi’n gweithio ond ar incwm isel, yn ddi-waith neu’n methu gweithio.
Llinell Gymorth Gymraeg y Credyd Cynhwysol: 0800 328 1744
Saesneg: 0800 328 5644
Dolen yma - https://www.gov.uk/apply-universal-credit
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Newydd
Os ydych chi’n sâl neu os oes genych gyflwr iechyd neu anabledd sy’n cyfyngu ar eich gallu i weithio, efallai y byddwch chi’n gallu cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Newydd.
Mae’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Newydd yn daliad bob pythefnos y gellir ei hawlio ar ei ben ei hun neu ar yr un adeg â’r Credyd Cynhwysol. Os ydych chi’n cael y ddau fudd-dal, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei ostwng gan y swm rydych chi’n ei gael ar gyfer y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Newydd.
Mae’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Newydd yn fudd-dal cyfrannol. Fel arfer, mae hyn yn golygu y gallech ei gael os ydych chi wedi talu neu wedi derbyn credyd sy’n cynnwys digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y ddwy flynedd dreth lawn cyn y flwyddyn rydych chi’n hawlio ynddi.
I fod yn gymwys am y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Newydd, bydd angen i chi fod wedi gweithio o fewn y 2 i 3 blynedd ddiwethaf fel arfer ac wedi gwneud (neu dderbyn credyd) cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 neu Ddosbarth 2. Gall hyn fod trwy gyflogaeth neu hunangyflogaeth.
Dolen yma - https://www.gov.uk/guidance/new-style-employment-and-support-allowance
Lwfans Ceisio Gwaith Newydd
Efallai y byddwch chi’n gymwys am Lwfans Ceisio Gwaith Newydd i’ch helpu pan fyddwch chi’n chwilio am waith, naill ai ar ei ben ei hun neu ar yr un pryd â’r Credyd Cynhwysol. Os ydych chi’n ddi-waith neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos gallech chi fod yn gymwys ar gyfer y Lwfans Ceisio Gwaith Newydd.
Dolen yma - http://gov.uk/jobseekers-allowance/apply-newstyle-jsa
Taliad Annibyniaeth Personol
Taliadau i gynorthwyo gyda chostau byw unigolion sydd â:
- Chyflwr neu anabledd corfforol neu feddyliol hirdymor
- Anhawster yn gwneud tasgau bob dydd fel symud o gwmpas oherwydd eich cyflwr
Dolen yma - https://www.gov.uk/pip
Credyd Pensiwn
Mae Credyd Pensiwn yn rhoi arian ychwanegol i’ch helpu gyda’ch costau byw os ydych chi’n hŷn nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac ar incwm isel. Gall Credyd Pensiwn eich helpu gyda chostau tai hefyd fel rhent tir neu daliadau gwasanaeth.
Gallech chi gael cymorth ychwanegol os ydych chi’n ofalwr, os oes gennych chi anableddau difrifol, neu os ydych chi’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc.
Mae Credyd Pensiwn ar wahân i Bensiwn y Wladwriaeth. Gallwch gael Credyd Pensiwn hyd yn oed os oes gennych chi incwm arall, cynilion neu eich cartref eich hun.
Cyngor ar Bopeth
Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim ar faterion amrywiol, gan gynnwys arian, dyledion a budd-daliadau. I siarad â chynghorydd, ffoniwch 03444 77 20 20 (9am i 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener)
Dolen yma - https://cacv.org.uk/
Age Cymru
Mae Age Cymru yn cynnig gwasanaeth cymorth diduedd, cyfrinachol am ddim. Gallant helpu pobl hŷn, eu teuluoedd, ffrindiau, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol gyda gwybodaeth a chyngor am faterion sy’n effeithio ar bobl hŷn.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 0300 303 398 rhwng 9:00am a 4:00pm, dydd Llun i ddydd Gwener, neu e-bostiwch advice@agecymru.org.uk.
Gofal a Thrwsio
Mae Gofal a Thrwsio yn darparu gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau ymarferol sy’n helpu pobl hŷn yng Nghymru i gadw’n ddiogel, yn gynnes ac yn iach gartref. Maent yn gosod cymhorthion ac addasiadau anabledd, darparu gwasanaethau cynnal a chadw cartref, helpu i fanteisio i’r eithaf ar incwm a chael gafael ar grantiau, a gwneud cartrefi’n ddiogel i bobl sy’n dychwelyd o’r ysbyty.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 0300 111 3333. Hyd yn oed os ydych chi’n meddwl nad ydych chi’n gymwys i gael cymorth ariannol fel arfer, gallech fod yn gymwys yn awr am gymorth gyda chostau byw bob dydd.
Dolen yma https://www.careandrepair.org.uk/cy/yn-eich-ardal/gofal-thrwsio-gorllewin-cymru/gwasanaethau/
Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, Caerdydd
Gall gynnig cymorth a chefnogaeth mewn sawl maes fel cyllidebu, manteisio i’r eithaf ar incwm a rheoli dyledion.
Mae gwasanaethau galw heibio ar gael yn Hyb y Llyfrgell Ganolog neu yn un o’u Cymorthfeydd Allgymorth.
Dolen yma - https://www.cardiffmoneyadvice.co.uk/cy/