Y Coronafeirws: Lle i gael help a chyngor cyfoes
Y coronafeirws: Help a chyngor cyfoes
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu diweddariad dyddiol am nifer yr achosion o’r coronafeirws yng Nghymru. Mae ar gael ar: https://phw.nhs.wales/news/public-health-wales-statement-on-novel-coronavirus-outbreak/
Mae gwybodaeth am y coronafeirws ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://gov.wales/coronavirus and https://llyw.cymru/coronafeirws
Ymholiadau am gymorth ar gyfer busnesau, gan gynnwys ynghylch cymhwysedd ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd?
Ewch i wefan Busnes Cymru https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/
Os gallwch helpu gyda'r ymdrech i gynhyrchu cyfarpar diogelu personol yng Nghymru, ewch i https://businesswales.gov.wales/news-and-blogs/news/provision-critical-equipment-and-personal-protection-equipment-ppe
Ar gyfer cyhoeddiadau a newyddion Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal sesiwn friffio’r cyfryngau bob dydd am y coronafeirws. Mae'r rhain ar goedd, ar gamera ac yn cael eu hategu gan gyfieithydd BSL fel mater o drefn. Cânt eu cynnal am 12.30pm bob dydd yn ystod yr wythnos.
Maent yn cael eu ffrydio'n fyw ar ein sianel Twitter @LlywodraethCym a’u darlledu'n fyw ar BBC One Cymru, ITV Cymru ac S4C. Gallwch wylio ar BBC iplayer hefyd.