Cewch wybod pa gymorth sydd ar gael i fusnesau Cymru yn ystod argyfwng y Coronafeirws
Cewch wybod pa gymorth sydd ar gael i fusnesau Cymru yn ystod argyfwng y coronafeirws
Cymorth i fusnesau yng Nghymru
Mae gwefannau Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru yn gyfeirbwyntiau rhagorol, sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd:
Cymorth ariannol a grantiau
- Mae gwybodaeth am y cymorth ariannol a’r grantiau sydd ar gael i gyflogwyr, gan gynnwys y Gronfa Cadernid Economaidd i’w gweld ar: https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/support/financial-support-and-grants
Ceisiadau am y Gronfa Cadernid Economaidd
Pan fydd ceisiadau wedi’u harfarnu, y nod yw talu’r ymgeiswyr llwyddiannus o fewn dwy wythnos, ar ôl iddynt ddychwelyd y Llythyr Cynnig Grant atom drwy e-bost i covidmicrofund@gov.wales
Neges gan Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru:
"Rwy’n deall yn llwyr ei fod yn newyddion siomedig iawn ar gyfer busnesau sy’n aflwyddiannus wrth gael cymorth ariannol. Fel llywodraeth, mae angen i ni daro cydbwysedd rhwng darparu lefel o gymorth a all helpu i gau’r bwlch llif arian y mae busnesau’n ei wynebu a chefnogi cynifer o fentrau â phosibl o gofio’r adnoddau sydd gennym.
"Gwnaethom benderfynu rhoi saib ar ein Cronfa Cadernid Economaidd ddydd Llun 27 Ebrill i drafod sut rydym yn defnyddio’r cyllid sy’n weddill i wneud y gorau o’r buddion ar gyfer y busnesau y mae arnynt ei angen ac i ddiogelu ein heconomi."
Bydd ail gam Gwiriwr Cymhwysedd y Gronfa Cadernid Economaidd ar gyfer ceisiadau newydd yn dechrau ar 15 Mehefin, gan roi amser i fusnesau baratoi eu ceisiadau.
- Disgwylir i’r ceisiadau llawn ddechrau ar 29 Mehefin.
- Bydd Cam 2 o’r Gronfa’n gweithredu yn yr un modd â Cham 1, ond â diweddariad i gymhwysedd y microgynllun.
- Hefyd, bydd cwmnïau cyfyngedig nad ydynt yn gofrestredig ar gyfer TAW hefyd yn cael mynediad at y Gronfa, yn amodol ar fodloni’r meini prawf eraill ar gyfer y gronfa. Dim ond ar un achlysur y gall y Gronfa Cadernid Economaidd gefnogi busnes.
Rhyddhad ardrethi a grantiau busnes cysylltiedig
Mae gwybodaeth am ryddhad ardrethi i’w gweld ar https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/support/business-rates-relief
- Pan fo’n bosibl, bydd y rhyddhad yn cael ei gymhwyso’n awtomatig i filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo cymwys gan awdurdodau lleol. Mae awdurdodau lleol hefyd â’r pŵer i roi rhyddhad yn ôl disgresiwn i drethdalwyr nad ydynt wedi’u cynnwys yn y cynlluniau rhyddhad ardrethi annomestig sefydledig.
- Mae Cynllun Grantiau Busnes Llywodraeth Cymru yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol. Mae rhagor o fanylion am y Cynllun a lincs i wefannau awdurdodau lleol ar gael ar https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/support/financial-support-and-grants/covid-19-grant
- Dylai busnesau gael hysbysiad gan eu hawdurdod lleol pan fydd y cais wedi’i brosesu. Mae hwn yn gyfnod digynsail ac mae swyddogion awdurdodau lleol yn gweithio’n galed dros ben i brosesu ceisiadau mor gyflym â phosibl.
- Nid yw’n bosibl rhestru pob math o fusnes a allai fod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi annomestig neu gymorth grant yn y canllawiau ac mae gan awdurdodau lleol rywfaint o ddisgresiwn wrth benderfynu a yw busnes yn gymwys ac a ddylid dyfarnu grant.
- Er mwyn sicrhau eglurder a chysondeb wrth weinyddu’r cynlluniau, ni fwriedir diwygio’r meini prawf cymhwysedd.
Cymorth gan Lywodraeth y DU
Llywodraeth y DU sy’n arwain rhai o’r cynlluniau cymorth sydd ar gael yng Nghymru. Dyma rai o’r prif gyfeirbwyntiau:
- Cymorth busnes Llywodraeth y DU https://www.gov.uk/government/news/coronavirus-covid-19-guidance-for-employees-employers-and-businesses
- Canllawiau Llywodraeth y DU i gyflogwyr a busnesau am y Coronafeirws, gan gynnwys gwybodaeth a chanllawiau ar feysydd megis tâl salwch statudol, cyngor i gyflogeion sydd wedi teithio i ardaloedd risg uchel a gweithio gartref https://www.gov.uk/government/publications/guidance-to-employers-and-businesses-about-covid-19
- Llinell gymorth Cyllid a Thollau EM am y Coronafeirws ar gyfer busnesau a phobl hunangyflogedig - 0800 0159 559.
- Banc Busnes Prydain - https://www.british-business-bank.co.uk/
- Cynllun Benthyciad Adfer - https://www.british-business-bank.co.uk/ourpartners/coronavirus-business-interruption-loan-schemes/bounce-back-loans/
- Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws - https://www.gov.uk/guidance/claim-for-wages-through-the-coronavirus-job-retention-scheme
- Y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig drwy gyfnod Coronafeirws - https://www.gov.uk/guidance/claim-a-grant-through-the-coronavirus-covid-19-self-employment-income-support-scheme