Julie Morgan AM for Cardiff North
Choose language | Dewis iaith
gb wales
Need help? Call | Angen help? Ffoniwch 0300 200 6241 
or | neu   email Julie | E-Bostiwch Julie      
Julie Morgan MS for Cardiff North

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cymorth brys i fusnesau bach yng Nghymru y mae’r coronafeirws wedi effeithio arnynt

Heddiw mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi pecyn cymorth gwerth mwy na £200 miliwn i fusnesau bach i’w helpu yn ystod yr achosion o’r coronafeirws.

Bydd busnesau manwerthu, busnesau hamdden a busnesau lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o £51,000 neu lai yn cael gostyngiad o 100% mewn ardrethi busnes, a bydd tafarndai sydd â gwerth ardrethol rhwng £51,000 a £100,000 yn cael gostyngiad o £5,000.

Bydd £100 miliwn pellach ar gael ar gyfer cynllun grant newydd ar gyfer busnesau bach. Bydd rhagor o fanylion am y cynllun grant newydd hwn yn cael eu cadarnhau cyn gynted â phosibl - GWELER YR EITEM NEWYDDION: DATGANIAD LLAWN GAN WEINIDOG YR ECONOMI.

Wrth gyhoeddi’r penderfyniad, dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid:

“I’m pleased we can offer this package of support to businesses as part of our response to the coronavirus outbreak. We are allocating every penny of the funding we will be receiving as a consequence of the schemes the UK Government announced in England last week to support businesses in Wales.

“But I know that helping businesses with their rates bills will not be enough to protect them from the severe drop in custom many are experiencing as coronavirus cases increase.

“We will be calling on the UK Government to act quickly and decisively to provide a very significant support package for vulnerable businesses and their employees.”