Llifogydd yr Eglwys Newydd – Cyfarfod dilynol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru
Y Diweddaraf am Lifogydd yr Eglwys Newydd gan Julie ac Anna
Rydym yn gwybod bod y stormydd a’r glaw trwm diweddar wedi dod ag atgofion erchyll y llifogydd y bu’n rhaid i rai ohonoch eu hwynebu y llynedd ac mae’n amser pryderus o hyd.
Mae Anna McMorrin a minnau wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a chynrychiolwyr preswylwyr lleol a ddioddefodd lifogydd y llynedd yn yr Eglwys Newydd er mwyn sicrhau bod mesurau priodol yn cael eu cymryd i atal llifogydd yn y dyfodol. Cawsom gyfarfod eto fore heddiw gyda CNC a Trafnidiaeth Cymru.
Dyma ddiweddariad cryno ar yr hyn mae Anna a minnau wedi bod yn galw amdano a pha gamau y cytunwyd arnynt:
Gwaddod yn cronni dan fwâu pontydd:
Efallai bod y crynhoad sylweddol o waddod dan fwâu’r pontydd wedi cyfrannu at y llifogydd ym mis Chwefror 2020. Rydym wedi bod yn galw am waith brys ac am glirio’r gwaddod. Cafodd Anna a minnau gyfarfod gyda Phennaeth TrC sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r bwâu ac rydym yn falch bod TrC bellach wedi comisiynu ymchwiliad o’r safle ac astudiaeth i werthuso effaith crynhoad y gwaddod a pheryglon unrhyw ymyriadau ar y safle hwn e.e. ar yr amgylchedd ac ar ecoleg. Mae TrC wedi ymrwymo i wneud y gwaith hwn os yw’r astudiaeth yn dangos y byddai cael gwared ar y gwaddod yn fuddiol, hyd yn oed os mai budd bach yn unig a geir. Disgwylir i’r astudiaeth hon gael ei chwblhau erbyn diwedd mis Chwefror. Mae TrC hefyd wedi ymrwymo i gydweithio â CNC i ddatrys y mater hwn cyn gynted â phosibl i breswylwyr.
Pryderon am y cyflenwydd a’r gamlas
Mae preswylwyr wedi mynegi pryderon am erydiad y cyflenwydd a’r gamlas ac wedi galw ar i rywun edrych ar hyn ar unwaith er mwyn helpu i atal llifogydd yn y dyfodol. Rydym yn deall bod Cyngor Caerdydd yn cymryd camau i sicrhau cyllid ar gyfer gwaith atgyweirio i’r gamlas a bydd Anna a minnau’n gwahodd Cyngor Caerdydd i’n cyfarfod nesaf am ddiweddariad mwy sylweddol am hyn.
Ynghyd â’r gwaith diogelu ac atal rydym am ei weld ar unwaith, mae CNC hefyd yn cynnal darn ehangach o waith i edrych ar holl achosion y llifogydd ar hyn Afon Taf. Disgwylir i’r gwaith hwn ddod i ben tua diwedd y flwyddyn ariannol a bydd yn sail ar gyfer mesurau atal llifogydd yn y dyfodol. Mae Anna a minnau wedi galw am ddull cydgysylltiedig rhwng yr holl randdeiliaid dan sylw ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarganfod beth sydd wrth wraidd y problemau fel y gallwn sicrhau bod y mesurau cywir ar waith i atal llifogydd yn y dyfodol.
Bydd cofnodion llawn y cyfarfod ar gael maes o law.
Hoffem ddiolch i Cyfoeth Naturiol Cymru a Trafnidiaeth Cymru am eu hymdrechion parhaus i ymgysylltu â phreswylwyr lleol a mynd i’r afael â’u pryderon yn ystod yr amser anodd hwn. Bydd Anna a minnau’n dal ati i weithio gyda’r gymuned leol a rhandaliad i sicrhau ein bod yn dod datrys y mater mewn ffordd bositif.