Gwaith yng nghronfa ddŵr Llysfaen – diweddariad
Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â Dŵr Cymru ar ôl i nifer o etholwyr gysylltu â mi â phryder y gallai gwaith presennol yng Nghronfa Ddŵr Llys-faen darfu ar adar a bywyd gwyllt.
Mae Dŵr Cymru wedi anfon yr esboniad a ganlyn ataf (30 Ebrill, 2020):
Beth yw'r gwaith sy'n cael ei wneud yn y gronfa ddŵr?
Mae'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn cynnwys clirio coed a llystyfiant ar hyd llwybr y gwaith unioni ffos newydd. Mae'r holl waith yn cael ei oruchwylio gan Glerc Gwaith Ecolegol gyda briff gwylio ar gyfer ystlumod ac adar.
Pam mae'r gwaith yn cael ei wneud nawr?
Mae'r gwaith rydym yn ei wneud yn waith hanfodol ar system ddraenio yn y gronfa ddŵr. Mae’n rhaid i ni wneud y gwaith hwn er mwyn cydymffurfio â darpariaethau iechyd a diogelwch o dan y Ddeddf Cronfeydd Dŵr, ac mae'n ofynnol i ni ei gwblhau erbyn mis Mehefin. Mae'r gwaith yn cynnwys adeiladu ffos ddraenio newydd i ffwrdd o'r gronfa ddŵr.
Pa gamau a gymerwyd i leihau'r effaith ar goed yn y gronfa ddŵr?
Gan fod yr ardal yn goetir lled-naturiol, rydym wedi bod yn gweithio gyda'r swyddog diogelu coed yng Nghyngor Caerdydd i gynllunio'n ofalus lle a sut y dylem wneud y gwaith i leihau'r effaith ar goed ac osgoi effeithio ar goetir hanesyddol. Gwnaethom hefyd ychydig o waith clirio cyn i'r gwaith hwn ddechrau er mwyn lliniaru’r risgiau amgylcheddol. Roedd hyn yn cynnwys gwaith tynnu a chlirio llystyfiant i'r ffos bresennol i ddraenio'r ardal.
A darfwyd ar adar neu ystlumod?
Hyd yn hyn, ni chafwyd nythod yn y coed y bwriedir eu clirio; a daeth yr arolwg gwawr ystlumod i'r casgliad nad oedd ystlumod yn defnyddio'r coed fel cynefinoedd.
Beth fydd yn digwydd i'r tir ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau?
Pan fydd y gwaith clirio wedi'i gwblhau, bydd y ffos newydd yn cael ei hadeiladu a bydd y ffos bresennol yn cael ei hôl-lenwi. Fel rhan o'r gwaith, byddwn yn ychwanegu rhai gwelliannau amgylcheddol er mwyn lliniaru effaith y gwaith